Erthyglau Cymraeg

8th February
"Y gem dderbi Gymreig fwyaf erioed" - dyna sut y gwnaeth un o fy nghyd-weithwyr ddisgrifio'r gêm yma yn Stadiwm Liberty heddiw. A mae'n anodd anghytuno efo'r datganiad yna. Mae hi'n gêm anferth ar ôl dau fis ddigon cythryblus i'r ddau glwb.
Ar ôl dau dymor digon llwyddiannus yn Uwch Gynghrair Lloegr, mae'r Elyrch wedi gweld pethau'n anodd ar adegau y tymor yma.
Rhediad siomedig o 8 gem gynghrair heb fuddugoliaeth, lot fawr o anafiadau, heb sôn am yr anghydfod cyhoeddus diweddar rhwng Garry Monk a Chico Flores.
Mae'r problemau yma wedi deillio yn fy marn i yn dilyn llwyddiant y clwb y tymor diwethaf yn ennill Cwpan Capital One. Yn barod mae nhw wedi chwarae 10 gêm yng Nghynghrair Ewropa, a mi fydden nhw'n wynebu Napoli ddwy waith cyn ddiwedd y mis.
Mae'r nifer cynyddol o gemau yn amlwg wedi cael effaith ar y perfformiadau
O ran Caerdydd - mae'n edrych yn debyg fod pethau wedi setlo yn y clwb bellach yn dilyn di-swyddiad Malky Mackay.
Dwi ddim yn meddwl fod neb wedi ei synnu fod Yr Albanwr wedi gadael yn y diwedd, a fe wnaeth y clwb yn dda i benodi olynydd mor sydyn.
Ond mi oedd y ffordd y cafodd o ei drin gan y perchennog Vincent Tan yn sicr wedi codi gwrychyn rhai o'r cefnogwyr,  a fe'r oedd yna ddrwg deimlad i'w deimlo o amgylch y clwb
Mae Caerdydd yn 19eg ac o fewn y 3 safle isaf. Ond er bod Abertawe yn y 12fed safle, dim ond 3 phwynt yn fwy na'r Adar Gleision sydd ganddyn nhw. Mae hynny yn profi pa mor agos ydi pethau yn y gynghrair y tymor yma. O bosibl mi fydd yn rhaid i dimau gael mwy na 40 pwynt os am aros i fyny. Ond dwi wir yn meddwl y bydd y 2 dim yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair eto y tymor nesaf.
Mae hi'n holl bwysig fod Abertawe yn cael eu chwaraewyr pwysig megis Michu a Michel Vorm yn holliach eto cyn gynted a phosibl - does bosibl wedyn y bydd yna ddigon o dalent fewn y garfan i'w cadw nhw i fyny.
A dwi yn meddwl fod Ole Gunnar Solskjaer wedi cryfhau'r ei garfan yn effeithiol iawn yn ystod mis Ionawr, a dwi'n ffyddiog y gwelwn nhw ni chwaraewyr megis Kenwyne Jones a Wilfred Zaha yn creu dipyn o argraff i glwb y brif ddinas dros y misoedd nesaf
Yng nghanol yr holl chwaraewyr tramor fydd yn chwarae heddiw - mi fyddai'n cadw llygaid barcud ar y frwydr rhwng y ddau gefnwr chwith ifanc, sef Ben Davies a Declan John.
Mae Davies wedi sefydlu ei hun fel y dewis cyntaf yn Abertawe ac yn nhim Cymru.
Ac er mai dim ond 18 oed ydi John, mae o'n barod wedi chwarae dros Gymru a wedi chwarae mewn sawl gem yn yr Uwch Gynghrair i Gaerdydd y tymor yma.
Mae'r ddau hefyd yn fechgyn lleol - felly o bosibl mi fydd y gem yn golygu mwy iddyn nhw nag i'r chwaraewyr eraill
Mae hi'n wych ein bod ni ar drothwy yr ail gêm dderbi Gymreig o'r tymor yn yr Uwch Gynghrair, a mae hyn yn sicr yn profi ein bod ni mewn cyfnod euraidd o safbwynt pêl droed yma yng Nghymru.
Dau dim yn un o'r cynghreiriau gorau yn y byd, Casnewydd nôl yn y gynghrair bêl droed am y tro cyntaf mewn chwarter canrif, a Wrecsam yn gwneud popeth yn eu gallu i ennill dyrchafiad o'r Gyngres.
Yr unig beth yr ydan ni ei angen rwan ydi i'r tim cenedlaethol gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016.................a phwy a wyr, os y bydd Gareth Bale ac Aaron Ramsey ar gael ar gyfer yr holl gemau yn y rowndiau rhagbrofol, mae unrhyw beth yn bosibl!