User tools SmallNormal Text SizeLargePrintBookmark the SiteEmail this Page

A ddylem faddau i Martinez?

Posted on: Wed 08 Jul 2009

Does na'r fath beth â saib o bêl-droed os ydych yn gefnogwr Abertawe. Aeth yr haf o adeiladu'n ofalus ar lwyddiannau'r tymor diwethaf yn yfflon pan benderfynodd Steve Bruce symud at Sunderland o Wigan.

Gwnaeth yr un penderfyniad hwnnw gan Geordie i fynd i reoli arch elyn clwb ei blentyndod agor y drws i Roberto Martinez fynd at Wigan Athletic a gadael yr Elyrch heb reolwr.

Mae'r hyn a wnaeth y gŵr a ystyriwyd gan amryw yng nghlwb Abertawe yn feseia wedi rhannu barn y cefnogwyr. Dyma'r dyn a ddywedodd y byddai' n rhaid ei daflu fe mas o'r Liberty iddo adael Abertawe.

Advertisement

Eto, pan ddaeth y cyfle cyntaf amlwg, fe baciodd ei fag a mynd â'r staff hyfforddi i gyd gydag ef. Fe aeth at un o'r clybiau yn Uwch Gynghrair Lloegr a ellir dadlau sydd yn llai nag Abertawe, pan ydych yn ystyried potensial posibl y ddau glwb ochr yn ochr. Does dim llawer yn eu gwahanu o ran maint heblaw am boced ddofn Dave Whelan (JJB Sports gynt) a'r ffaith bod Wigan wedi goroesi ers rhai tymhorau bellach yn un o gynghreiriau pêl-droed mwya'r byd.

Yng ngolwg llawer o gefnogwyr Swans, fyddai wedi bod yn haws maddau iddo petai wedi mynd i glwb mwy. Roedd su ei fod am fynd i Celtic a byddai hynny wedi bod yn bilsen haws i'w llyncu.

Y broblem gyda Roberto Martinez oedd ei duedd i fod yn ddelfrydgar - roedd chwarae yn steil atyniadol 'The Swansea Way" yn bregeth fawr ganddo. Creu mytholeg oedd hyn, gan fod cefnogwyr y Swans wedi gweld digon o bêl droed 'rooute one' dros y blynyddoedd hefyd. Ond mynnai .Martinez bod y ffordd o chwarae â'r bel ar y llawr mewn dull cyfandirol yn rhan o ethos y clwb.

Roedd yn fytholeg a roddodd ar waith ar y cae yn gyflym iawn o fewn dau dymor, gan dynnu sylw sylwebyddion pêl-droed y tu hwnt i Gwm Tawe. Roedd gwylio'r tîm are ar eu disgleiria' yn peri i rywun gredu weithiau bod chwyldro cyfandirol ar waith, hyd yn oed ar nos Fawrth laith yng nghanol Chwefror.

Roedd y bêl-droed ar adegau'n eitha gwefreiddiol. Ond roedd llawer o chwarae cyffredin iawn i'w weld yno hefyd, camgymeriadau elfennol wrth amddiffyn yn enwedig a cholli cyfleodd i ennill gemau'n glinigol. Ond roedd yn hawdd anghofio hynny pam oedd y Swansea Way yn tycio.

Bydda i wastad yn ddiolchgar iddo am roi'r munudau yna o ramantiaeth gyfandirol inni. Fe aeth a'r clwb i lefel newydd. Pan ddaeth e at y clwb yn gyntaf fel chwaraewr o dan Brian Flynn, roedd Abertawe ar waelod yr Ail Brawf yn wynebu cwymp mas o'r gynghrair.

Roedd ei rôl fel capten yn allweddol wrth i'r tîm ddianc o'r gwaelodion a gydag yntau'n gapten o dan lyw olynydd Flynn, Kenny Jackett, fe lwyddwyd i esgyn i'r Adran Gyntaf ddau dymor yn ddiweddarach.

Yna, dychwelodd fel rheolwr ac arwain y tîm o'r Adran Gyntaf i'r Bencampwriaeth yn ei dymor llawn cyntaf ac i'r wythfed safle yn y Bencampwriaeth yn ei ail dymor. Mae hynny'n record ryfeddol na all neb heblaw John Toshack ei ragori yn hanes modern y clwb

Am hynny yn unig, mae'n haeddu mwy na maddeuant, mae'n haeddu ei le ym mhantheon y clwb. Rwy'n maddau iddo am reswm arall hefyd. Fe adawodd Abertawe i ddychwelyd at ei gariad cyntaf, gan y bu'n rhan allweddol o ddyrchafiad Wigan Athletic fel clwb pêl-droed. Mae'n anodd inni lyncu hyn fel cefnogwyr y Swans, ond fe adawodd un cariad am un arall.

Yr hyn rwyf wedi dysgu fel cefnogwr yw na allwch fyth gael eich dallu gan orfoledd llwyddiant yn hir oni bai eich bod yn cefnogi un o'r clybiau gwirioneddol fawr. Rwy'n falch iawn o weld rheolwr gyda'r fath statws fel cyn chwaraewr â Paulo Sousa yn dod i'r clwb. Mae ganddo steil a charisma Canoldirol fel Martinez ac fe gyhoeddodd yn ei gynhadledd gyntaf i'r wasg ei fod am droi Abertawe yn "global brand".

Ond y tro hwn dwi ddim am gael fy hudo'n llwyr gan unrhyw addewidion o "sexy football". Dwi ishe iddyn nhw chwarae gyda steil ond heb anghofio'r sylwedd hefyd. Os oedd gan dimau Martinez un gwendid amlwg - y duedd i beidio cau'r giatiau ar ôl mynd ar y blaen. Yn y tymor hwn o bob tymor, bydd yn rhaid i Sousa ganolbwyntio ar sicrhau canlyniadau. Nid ar chwarae pert mae goroesi.

Ac am Martinez, wel, rwy'n dal i gredu ei fod yn caru Abertawe. Mae'n symbolaidd rywsut mai ei weithred olaf yn y ddinas oedd priodi ei gariad mewn eglwys yma. Yr hyn sy'n fwy arwyddocaol oedd clywed gan gyd-gefnogwr ei fod wedi llofnodi copi o'i lyfr ychydig wythnosau yn ôl, gyda'r geiriaiu "I'll be back". Da chi i byth yn gwybod - football is a funny old game - gallwn ond breuddwydio…

roberto
 Related Articles
 News Archive
Display Stories From Week

Swansea business finder is powered by city-visitor.com & cityvisitor.co.uk

All materials on this website © Swansea City Football Club & FLPTV Ltd.

Photographs courtesy of Empics or Swansea City Football Club ©

CEOP - Report Abuse

Part of the Club Player network

Company Details

All rights reserved save as per website Terms of Use. Privacy Statement. Subscription terms and conditions.

Accessibility.

For all advertising and sponsorship enquiries, please click here