Er nad yw e'n chwarae heno o ganlyniad i'r cytundeb benthyg, mae'n anodd peidio siarad am gêm Abertawe yn erbyn Dinas Bryste heb sôn am yr un chwaraewr sydd gyda ni'n gyffredin - Lee Trundle.
Maen nhw'n dweud na ddylech chi fyth mynd nôl, fydd pethau ddim mor dda yr ail dro, dim ond sarnu atgofion melys fydd dychwelyd i hen glwb yn ei wneud.
Er yr holl rybuddio yma dyna'n union beth mae Lee Trundle wedi gwneud wrth ddychwelyd i'r Liberty am ail gyfnod.
I fod yn hollol onest, pan glywais i'r newyddion fod 'Magic Daps' wedi ail-arwyddo ar fenthyg do'n i ddim yn siŵr iawn os taw hwn oedd y cam cywir i'r clwb.
Ond wrth weld y dyn ei hun yn camu i'r cae yn erbyn Watford (efallai oherwydd sentiment yn fwy na dim byd arall) wnes i newid fy meddwl yn gyfan gwbl.
I ddechrau, does dim byd i golli gyda ni fel clwb trwy arwyddo Trundle ar fenthyg, os nad yw pethau'n gweithio mas dros y pedwar mis nesa gallwn ni ddweud "Diolch yn fawr am dy help" a gadael iddo ddychwelyd i Fryste.
Mae Lee yn gymeriad ar, ac oddi ar, y cae, rhywun fydd yn codi ysbryd y tîm a'r dorf wrth iddo fe chwarae.
Yn erbyn Watford roedd yr awyrgylch a'r gêm yn fflat iawn cyn i LT19 ymuno â'r ornest ond ar ôl iddo fe ymddangos yn y crys gwyn wnaeth popeth newid, cododd sŵn y dorf ac roedd 'na ddisgwyliad byddai rhywbeth yn digwydd bob tro 'roedd y bêl wrth ei draed.
Er ein bod ni wedi colli chwaraewyr da dros yr haf rwy'n dal i deimlo fod gyda ni garfan gref iawn, ond yr un peth oedd yn eisiau yn y tîm hyd yn hyn y tymor 'ma (ar ôl colli Gomez a Scotland) oedd chwaraewr sy'n gallu newid gêm.
Dyma un o'r elfennau mwyaf mae Trundle yn dod i'r parti. Gydag un fflic bach o'i droed chwith, un foment o hud, mae Lee Trundle yn gallu datgloi amddiffyn a chreu cyfleoedd hyd yn oed yn ystod y gemau tynnaf.
 |
|
Dechreuodd Trundle yn erbyn Preston |
Er eu bod nhw'n dweud na ddyle chi fyth mynd nôl mae 'na hefyd ddywediad sy'n honni fod rhaid i chi 'fynd er mwyn dod nôl'.
Rwy'n sicr fod cyfnod Trundle ym Mryste wedi gwneud iddo fe sylweddoli faint yn wir mae'n caru clwb pêl-droed Abertawe, a'i wneud e hyd yn oed yn fwy penderfynol o lwyddo.
Hefyd, mae ganddo fe bwynt i'w profi - sef dangos ei fod e'n gallu sgorio goliau yn y Bencampwriaeth ar ôl dau dymor siomedig iawn.
Dyna'r rheswm mae rhai yn ei ddefnyddio i ddadlau na fydd Trundle mor llwyddiannus yn ei ail gyfnod fel alarch - nad yw e wedi sgorio goliau ar y lefel yma wrth chwarae i Fryste.
Ond mae'n rhaid cofio nad oedd ei record i Wrecsam gystal â hynny cyn iddo ymuno â ni'nwreiddiol, a taw dim ond yng ngorllewin Cymru mae Trundle wedi bod ar ei orau.
Mae ambell chwaraewr wir yn perthyn i un clwb arbennig, sydd yn chwarae'n well wedi'i rwymo mewn un crys neu liw, fel Robbie Fowler yn ei ddau gyfnod yn Lerpwl a Michael Chopra gyda Chaerdydd.
Rwyf wir yn credu fod Lee Trundle yn un o'r chwaraewyr yna, a dros y misoedd nesaf bydd caneuon amdano fe a'i daps hud unwaith eto yn seinio o'r dorf yn y Liberty o ganlyniad i'w driciau a'i goliau.
Although Lee Trundle can't play tonight against Bristol City, he will be on many people's minds during the derby match.
Rhys Padarn thinks it's worth giving Lee Trundle another chance at the Swans to prove he has Championship pedigree.
He believes that his second coming could inspire the whole squad.