Fe ddywedodd John Toshack mewn cyfweliad diweddar y bydd y pum gêm gyntaf y tymor hwn yn mesur beth yw sail a sylwedd y Swans yn eu hail dymor yn y Bencampwriaeth.
Mae rheolwr Cymru a chyn Feseia'r Elyrch yn cydnabod y bu'n gwbl anghywir y llynedd wrth ddarogan y byddai'r tîm yn ei chael hi'n anodd yn y Bencampwriaeth. Ac mae rhai cefnogwyr selog yn ddig wrtho am rybuddio y bydd hi'n anoddach y tro hwn inni wrth i'r Elyrch wynebu 'syndrom yr ail dymor' mewn cynghrair newydd.
Ond mae Tosh o bawb yn gwybod hynny ar ôl wynebu'r un syndrom fel rheolwr Abertawe ddechrau'r 80au. Mae gofyn inni dderbyn gair o brofiad weithiau.
Dwi ddim yn credu y gallai neb wedi gofyn am ddechrau anoddach i'r tymor. Yn hynny o beth, mae Toshack yn berffaith iawn. Fe fydd y gemau yma yn brawf ac yn fesur go iawn.
Gyda Chaerlŷr a Middlesborough bellach yn ystadegau yn y llyfrau hanes, mae'n amser wynebu'r trydydd jygernawt mewn cynghrair sy'n llawn o gewri yn nhymor 2009-10. Mae'n rhaid i dîm Sousa ffeindio eu traed yn o glou achos fe all dechrau gwael olygu brwydr galed i ddianc o'r gwaelodion dros y naw mis nesaf.
Wedi sôn am yr her anodd o gwrdd ag un o'r cewri, fe fydd yn braf gweld Reading yma eto. Ar ryw ystyr, fe wnaeth y ddwy gêm yn erbyn y Royals y tymor diwethaf grynhoi'r tymor cyntaf yn y Bencampwriaeth o dan Roberto Martinez.
Fe gafodd y tîm eu chwalu lan yn y Stadiwm y Majedski ar adeg o'r tymor pan oedd Reading (clwb arall sy'n deall beth yw syndrom ail dymor) yn hedfan ac yn ymddangos fel eu bod am oresgyn yn ôl i'r Uwch Gynghrair yn syth
Roedd amddiffyn Abertawe yn enwedig yn dal yn naïf ac yn ansicr yn yr adeg honno o'r tymor. Roedd y Swans newydd guro Caerdydd yn y Cwpan Carling a'r ffocws ar chwâl. Fe gafon nhw eu cosbi'n drwm a dysgu gwers. Ond efallai taw'r grasfa honno arbedodd dymor y tîm. Fe ddysgon nhw'n gyflym i amddiffyn yn fwy trylwyr ac i beidio â rhoi meddiant bant. Fe ddysgon nhw fod chwarae''n bert ynddo'i hun ddim yn ddigon.
Dwi'n cofio'r capten Garry Monk yn dweud ddechrau'r tymor diwethaf bod yn rhaid derbyn bod tîm fel Abertawe yn ildio goliau oherwydd ein bod yn chwarae mewn steil ymosodol. Chlywyd ddim llawer o siarad o'r math yna ar ôl y grasfa honno lawr yr M4.
Roedd y gêm gartre yn stori hollol wahanol ar adeg cwbl gyferbyniol yn y tymor. Erbyn hynny roedd y tîm wedi dechrau ffeindio eu traed yn y Cynghrair ac roedd dylanwad asgellwr newydd yn ei gêm gyntaf yn y tîm yn amlwg hefyd
Roedd rôl Nathan Dyer yn y perfformiad wrth agor yr amddiffyn yn allweddol ac fe welwyd hyn wedyn mewn nifer o gemau yng nghyfnod aur y tymor i'r tîm. Roedd y fuddugoliaeth honno yn erbyn Reading yn bwysig iawn yn y tymor. Fe sbardunodd cyfnod wnaeth bron arwain at y gemau ail gyfle, Mae rhai'n teimlo y bu'r gêm yn ergyd seicolegol fawr i Reading yn eu brwydr i esgyn i''r Uwch Gynghrair.
Mae rheolwyr medrus y ddau glwb wedi gadael bellach, y naill, Steve Coppell, am ei fod yn teimlo nad oedd wedi cyflawni'r hyn oedd wedi ei obeithio drwy arwain ei glwb yn ôl i'r Uwch Gynghrair a'r llall, Roberto Martinez, am ei fod wedi llwyddo cymaint yn nhymor cyntaf y clwb yn yr hen 'Ail Adran' fel denu sylw ei hen gyfaill, Dave Whelan yn Wigan.
Mae her wahanol yn wynebu tîm Abertawe y tro hwn. Fe ddaw Brendan Rodgers â'i steil ei hun i'r Liberty. Mae yntau fel Pablo Sousa yn un o ddisgyblion y 'Special One', Jose Mourinho.
Fe ddangosodd ei allu'r tymor diwethaf pan lwyddodd i achub Watford rhag cwympo i'r Adran Gyntaf ac fe ddysgodd wers dactegol i Roberto Martiniez pan aeth Abertawe yno fis Chwefror a cholli'r frwydr gorfforol, gan lidio dwy gôl i golli 0-2 ar ôl bod yn ddiguro am 16 o gemau.
Gallwn ond gobeithio taw'r Abertawe a chwaraeodd Reading yr eildro'r tymor diwethaf fydd yn camu mas i'r Liberty heno. Yr allwedd yw cadw meddiant ac os gall Abertawe gadw digon o'r bêl, does dim rheswm pam na allwn ennill.
Yn y gêm nôl ym mis Ionawr, heblaw am Dyer, Jason Scotland oedd y chwaraewr allweddol yn y fuddugoliaeth, gan sgorio un gôl a chreu un arall. Rhaid inni obeithio y daw Pintado neu Dobbie i'r adwy i droi'r holl greu yn goliau.
Owen Davies believes that the two games against Reading last season reflected two aspects of Swansea's play. He hopes it is the Swansea which swept past at home last January that will walk out to the Liberty ground today.