User tools SmallNormal Text SizeLargePrintBookmark the SiteEmail this Page

Yr un record sgorio â Darlington

Posted on: Fri 25 Sep 2009

Darlington yw'r unig dîm sydd â record sgorio gynddrwg ag Abertawe yng Nghynghrair Coca-Cola y tymor hwn.

Dyna ichi ffaith drist. Fel Darlington, 'dyw Abertawe ond wedi sgorio tair gôl mewn wyth gêm Gynghrair ers dechrau'r tymor - a fel y tîm sydd ar waelod Yr Ail Adran , mae tîm Paulo Sousa wedi methu â sgorio mewn pump o'u gemau yn Y Gynghrair hyd yn hyn.

Mae'r record honno yn un druenus wrth gwrs, ond 'dyw perfformiadau Abertawe yn eu gemau diweddar ddim wedi bod yn druenus yn fy marn i. Wythnos i Nos Fawrth ddiwethaf 'roeddwn i yn Stadiwm Liberty yn gwylio'r gêm ddi-sgôr yn erbyn Bristol City - o Eisteddle'r Dwyrain yn hytrach nag yn sylwebu ar y gêm o Eisteddle'r Gorllewin.

Advertisement

Dylsai Abertawe fod wedi sgorio a gallen nhw'n hawdd fod wedi ennill; ac mae'r un peth yn wir am y gêm ddi-sgôr yn Barnsley y Sadwrn diwethaf. Mae hi'n rhyfedd meddwl petae Abertawe wedi cael buddugoliaeth yn Oakwell, eu record nhw ar ôl wyth gêm fuasai : ennill 2 cyfartal 3 colli 3 : yr un fath â'u record ar ôl wyth gêm y tymor diwethaf gyda Roberto Martinez yn rheolwr...

"Pan ddechreuwn ni sgorio, gwnawn ni sgorio llawer o goliau."

Dyna gyfieithiad o beth ddywedodd Sousa ar ôl y gêm yn Barnsley ac 'rydw i'n credu efallai ei fod o'n iawn. Mae'r chwaraewyr wedi gwastraffu cyfleoedd da o flaen y gôl yn y ddwy gêm ddiwethaf - er enghraifft Jordi Lopez yn erbyn Bristol City a Cedric van der Gun yn Barnsley - a gallai Craig Beattie fod wedi sgorio ar ôl iddo fo ddod i'r maes yn eilydd yn y ddwy gêm.

Wrth sôn am Beattie, os bydd o'n chwarae yn erbyn Sheffield United, bydd o'n benderfynol o sgorio ei gôl gyntaf i Abertawe yn eu herbyn nhw ar ôl iddo fo dreulio cyfnod ar fenthyg gyda nhw o West Brom y tymor diwethaf.


BBC Wales football commentator Gareth Blainey points out that Swansea share the worst scoring record in the Coca-Cola League with the League's bottom side Darlington but believes that record could well improve very soon given the number of chances the Swans have created in recent matches.

As for today's game against Sheffield United, Craig Beattie will be determined to score his first goal for Swansea against a club he joined on loan from West Brom last season.

Stephen Dobbie
 News Archive
Display Stories From Week

Swansea business finder is powered by city-visitor.com & cityvisitor.co.uk

All materials on this website © Swansea City Football Club & FLPTV Ltd.

Photographs courtesy of Empics or Swansea City Football Club ©

CEOP - Report Abuse

Part of the Club Player network

Company Details

All rights reserved save as per website Terms of Use. Privacy Statement. Subscription terms and conditions.

Accessibility.

For all advertising and sponsorship enquiries, please click here