User tools SmallNormal Text SizeLargePrintBookmark the SiteEmail this Page

Clwb cymunedol a ddylai fuddsoddi mewn ieuenctid

Posted on: Sat 03 Oct 2009

Gan Owen Davies

Bu cryn sylw yn ddiweddar ynghylch hybu doniau ifanc clwb Yr Elyrch. Mae'n amlwg bod yna do newydd o chwaraewyr ifanc disglair yn y clwb ac mae hyfforddwr tîm Dan 21 Cymru, Brian Flynn, wedi cynnwys nifer ohonynt yn ei garfannau.

Mae Paulo Sousa hefyd wedi dangos parodrwydd i'w defnyddio yn eu carfannau yn wyneb yr anafiadau sydd wedi bod yn gymaint o her i'r rheolwr newydd yn ystod ei ddeufis cyntaf. Dangosodd Kerry Morgan a Jazz Richards yn enwedig fod ganddynt botensial i gamu i'r prif dîm yn y Bencampwriaeth ryw ddydd cyn hir.

Advertisement

Mae hyn i gyd yn ganmoladwy iawn ac yn argoeli'n dda am y dyfodol ond mae amryw'n gofyn cymaint gwell eto fyddai pethau petai gennym Academi go iawn. Byddai chwaraewyr ifanc yr ardal wedyn yn gallu mesur eu hunain yn erbyn y gorau mewn timau Academi eraill.

Mae Caerdydd yn amlwg yn un clwb sydd wedi elwa o gael Academi. Yn wir, gellir dadlau mai'r to o chwaraewyr disglair y maen nhw wedi'u meithrin sydd wedi helpu'r clwb i oroesi dros y blynyddoedd diwethaf. Mewn byd cystadleuol caled fel pêl-droed, fe all gael un neu ddau chwaraewr ifanc y gellir gwerthu am filiynau olygu bod clwb yn goroesi.

 Ond yn bwysicach fyth, mae cynhyrchu cenhedlaeth o chwaraewyr ifanc yn rhoi pedigri i unrhyw glwb, gan ddangos bod gan y clwb uchelgais. Maen nhw hefyd yn creu cystadleuaeth iach am leoedd o fewn carfan, ffactor hanfodol i gynnal safonau.

Mae materion eraill wedi codi yn ddiweddar sy'n dangos yr angen am Academi yn Abertawe. Mae hanes colli'r crwt 15 oed o Lanelli , Emyr Huws i Manchester City ar ôl blynyddoedd yn cael eu meithrin yma yn Abertawe yn dangos bod angen strwythur proffesiynol i gadw'r ieuenctid o fewn y gorlan. Yn ei achos e, dyn a ŵyr a fyddai wedi aros gydag arian mawr Man City i'w ddenu ond byddai'n siŵr o fod wedi helpu.

Mae polisi ieuenctid y clwb yn ymddangos fel eu bod yn dwyn ffrwyth p'run bynnag.

Mae chwaraewr disglair fel Joe Allen wedi dod trwy'r rhengoedd yn y blynyddoedd diwethaf. Ond mae cymaint mwy o botensial yn ne orllewin Cymru i feithrin a chadw chwaraewyr. Mae yna le am ddwy Academi yn ne Cymru. Tybed a fyddai Adam Hughes wedi llithro i rwyd yr Adar Gleision petai gennym Academi? Mae rhywun yn deall nad ar chwarae bach y mae sefydlu Academi, ond mae'r cyfleusterau a'r amgylchiadau yn iawn yn y ddinas i fwrw ati.

Ar fater meithrin chwaraewyr ifanc, rwy'n falch o weld Shaun Macdonald yn cael cyfle i chwarae gyda Yeovil eto. Dwi'n gwybod nad pawb sy'n hoff o'r drefn o fenthyca chwaraewyr. Mae cadeirydd Abertawe ei hun, Huw Jenkins, wedi dweud nad yw'n ffan mawr. Ac ydy, mae'n ffafrio'r timau mwy fel Man City sy'n medru staffio carfan fawr a rhoi chwaraewyr mas ar fenthyg pan mae'n siwtio nhw. Ond fe all weithio i dimau fel Abertawe hefyd.

Fe weithiodd e'n wych i Joe Allen y tymor diwethaf pan aeth i Wrecsam am gyfnod byr. Fe roddodd yr ychydig gemau a gafodd yno'r hyder iddo chwarae ei gêm naturiol

a phan ddychwelodd i Abertawe, roedd yn barod i herio am le yn y prif dîm. Mae potensial i Macdonald flodeuo hefyd wrth chwarae'n rheolaidd i'r clwb o orllewin Lloegr. Y gobaith yw y daw yn ôl a herio am le yng nghanol tîm Abertawe.

Mae cryn edrych ymlaen at gêm heddiw gan fod Sousa yn gyn reolwr ar QPR.. Mae'n anodd anghofio'r gêm ddiwethaf yn y Liberty rhwng y ddau dîm achos fe gafodd

Dorus De Vries anaf a bu'n rhaid i Alan Tate ddod ar y cae i chwarae rhwng y pyst.

Fe gafodd Tate ei amddiffyn yn wych y noson honno ac fe ddangosodd e hefyd ei fod yn barod i wisgo crys Abertawe mewn unrhyw safle. Mae e wedi profi ei werth ganwaith ers hynny a chwaraewyr fel fe sydd wrth galon llwyddiant clwb fel Abertawe.

Yn olaf, gall Abertawe fod yn falch o fod yn fagwrfa i bencampwyr byd. Fe ddaeth tîm digartref Cymru yn ôl o'r Eidal yn bencampwyr byd. Chwaraewyr pêl-droed digartref o'r ddinas oedd cnewyllan y tîm. Mae'r llwyddiant yn dweud llawer am yr ysbryd cymunedol hwnnw sy'n perthyn i draddodiad pêl-droed Abertawe a'r ysbryd hynny yw gwraidd unrhyw lwyddiant.

Owen Davies thinks that Swansea's youth policy is obviously paying dividends, but argues that could be even better if the club could develop an Academy. He also welcomes Shaun MacDonald's loan move to Yeovil, hails Alan Tate as a club hero and the Wales Homeless side for their heroics in Italy.

Youth Team
 Related Articles
 News Archive
Display Stories From Week

Swansea business finder is powered by city-visitor.com & cityvisitor.co.uk

All materials on this website © Swansea City Football Club & FLPTV Ltd.

Photographs courtesy of Empics or Swansea City Football Club ©

CEOP - Report Abuse

Part of the Club Player network

Company Details

All rights reserved save as per website Terms of Use. Privacy Statement. Subscription terms and conditions.

Accessibility.

For all advertising and sponsorship enquiries, please click here