'Rydw i wedi bod yn recordio sgyrsiau gyda rheolwyr a chwaraewyr Abertawe yn rheolaidd ers 1998 a digwyddodd un o'r sgyrsiau mwyaf cofiadwy ychydig mwy na blwyddyn yn ôl.
Ar Hydref 23ain. y llynedd holais i golwr Abertawe Dorus de Vries ddeuddydd yn unig ar ôl iddo dorri asgwrn ei foch a'i ên mewn gwrthdrawiad gyda chwaraewr canol cae Queens Park Rangers Martin Rowlands yn ystod gêm ddi-sgôr yn Stadiwm Liberty.
Er gwaethaf ei anafiadau cas, 'roedd de Vries yn ddigon bodlon siarad gyda fi - a nifer o ohebwyr eraill - a gwnaeth ei ymateb call i'w anffawd gryn argraff arnaf i.
Gwrthododd yr Iseldirwr weld bai ar Rowlands, datgelodd ei fod wedi derbyn llythyr o ymddiheuriad ganddo a dywedodd ei fod yn benderfynol o ail-ddechrau chwarae yn fuan.
Profodd de Vries nad geiriau gweigion oedd y geiriau hynny trwy ddychwelyd i'r tîm lai na phum wythnos wedyn - yn Coventry mewn masg i warchod ei wyneb - a gwnaeth o un arbediad campus yn y gêm honno.
Mae o wedi gwneud nifer o arbediadau ardderchog ac allweddol y tymor hwn hefyd - er enghraifft, dau arbediad yn ystod y fuddugoliaeth o 2-0 dros Q.P.R. dair wythnos yn ôl pan oedd y sgôr yn 0-0 ac un arall yn eiliadau olaf y gêm ddi-sgôr yn erbyn Bristol City fis diwethaf.
'Roedd yr arbediadau hynny'n tanlinellu'r ffaith bod golwr yn aml mor bwysig â sgoriwr wrth sicrhau pwyntiau i'w dîm, ac yn sicr mae de Vries yn aelod pwysig iawn o garfan Paulo Sousa.
BBC Wales football commentator Gareth Blainey - who has been covering Swansea City on a regular basis since 1998 - says that one of the most memorable interviews he's recorded with a Swansea manager or player took place almost exactly a year ago.
On October 23, 2008, Gareth - along with other reporters - spoke to goalkeeper Dorus de Vries just two days after the Dutchman broke his jaw and cheekbone in a collision with QPR midfielder Martin Rowlands during a 0-0 draw at Liberty Stadium and the Dutchman's philosophical reaction to his horrific injuries was impressive.
He has made several vital saves this season - two of them in the 2-0 win against QPR three weeks ago when the score was 0-0 - underlining the fact that goalkeepers are often just as important as goalscorers in securing points for their team, and there's no doubt that de Vries is a very important member of Paulo Sousa's squad.