Jordi Gomez, Gorka Pintado, Joe Allen, Matthew Bound - bydd lle i'r chwaraewyr yma yng nghalon pob cefnogwr Abertawe gan fod y pedwar wedi gwneud yr un peth, sgorio yn erbyn Caerdydd.
Un ffordd i bêl-droediwr sicrhau ei enw yn hanes unrhyw glwb yw sgorio'r gôl fuddugol neu gôl bwysig mewn gêm 'derby' a rhoi'r hawl i fragio i gefnogwyr eu tîm.
Mae awyrgylch y gemau yma mor drydanol, mor emosiynol fe fydd cefnogwyr byth yn anghofio'r dynion sy'n gyfrifol am ennill gemau sydd gymaint am hunaniaeth a balchder lleol ag y maen nhw am bêl-droed.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r gemau eraill sy'n cael eu chwarae yn ystod tymor mae'r gemau yn erbyn Caerdydd yn aros yn y cof am byth.Mae'r llun o Joe Allen yn dathlu ei gôl ym Mharc Ninian llynedd eisoes yn un eiconig a dwi'n cofio darllen fod Matthew Bound yn dal i gael pobl yn diolch iddo fe ar y stryd deg mlynedd ar ôl iddo fe sgorio'r gôl fuddugol yn y gêm derby olaf i gael ei chwarae yn y Vetch.
Ond pwy fydd yn 'sgrifennu ei enw mewn i'r llyfrau hanes heddi'? Fydd Dyer, Allen, Pintado neu Pratley yn gallu gwneud yr hyn a wnaethon nhw'r llynedd a sgorio yn erbyn yr hen elyn?

Neu fydd rhywun arall yn sicrhau fod ei enw e'n cael ei gofio gan y Jack Army am byth? Fydd record sgorio wych Craig Beattie dros yr wythnosau diwethaf yn parhau? Beth yw'r siawns fydd hoff chwaraewr cefnogwyr Caerdydd, Lee Trundle, yn camu i'r maes ac yn ennill y gêm?
Ceisio rhoi hapusrwydd i gefnogwyr a phobl y ddinas yw nod Paulo Sousa trwy ennill gêm heddi' ac er taw heddi' yw ei 'derby'cyntaf fel rheolwr Abertawe mae e'n gwybod yn iawn beth yw pwysigrwydd y gemau yma.Wedi'r cyfan, mae e wedi chwarae mewnambell i dderby fwya'r byd yn Milan, Turin, Lisbon yn ogystal â gemau mawr fel Borussia Dortmund yn erbyn Bayern Munich.
Mae Sousa yn deall sut mae awyrgylch ac emosiwn gemau 'derby' yn gallu effeithio ar chwaraewyr a fydd e mewn sefyllfa dda i gynghori'r tîm ar sut i ddelio â hwnna. Mae'r tri cherdyn coch yn y tair gêm y llynedd yn dangos pa mor bwysig yw'r elfen seicolegol ar achlysur fel hyn.
Cafwyd tair gêm wych o bêl droed y llynedd gyda naw gôl a digon o benderfyniadau dadleuol a dwi'n sicr taw gêm debyg welwn ni heddiw. Croesi bysedd taw un o chwaraewyr Abertawe fydd yn rhoi ei enw yn y llyfrau hanes nid un o rai Caerdydd.
Rhys Padarn writes about the excitement of the derby match and wonders who could write their names in the history books by hopefully scoring for the Swans this time round.