User tools SmallNormal Text SizeLargePrintBookmark the SiteEmail this Page

Gêmau fwyaf cofiadwy

Posted on: Fri 20 Nov 2009

Cymru 2 Yr Eidal 1 - Abertawe 4 Hull 2 - Abertawe 3 Caerdydd 2

Dyna'r tair gêm fwyaf cofiadwy 'rydw i erioed wedi sylwebu arnynt ar BBC Radio Cymru ers imi ddechrau sylwebu'n rheolaidd yn ystod tymor 1992-93.

'Roedd buddugoliaeth Abertawe dros Gaerdydd yma yn Stadiwm Liberty bron i bythefnos yn ôl yr un mor gyffrous a dramatig â'r ddwy gêm arall : y ddwy yn yr un tymor - 2002-03.

Advertisement

Ar Hydref 16eg. 2002 y curodd Cymru Yr Eidal am y tro cyntaf yn Stadiwm Y Mileniwm ac ar Fai'r 3ydd. 2003 y daeth Abertawe yn ôl ar ôl bod ar ei hôl hi o 2-1 ar yr egwyl i ennill yn erbyn Hull ar Y Vetch a sicrhau na fydden nhw'n syrthio o'r hen Drydedd Adran i'r 'Conference'.

Ar ôl i Abertawe guro Caerdydd dywedodd Darren Pratley bod 'ysbryd y tîm' yn ffactor allweddol yn eu llwyddiant nhw ond mae hi'n deg nodi cyfraniad anferth Pratley at y fuddugoliaeth o ran ei berfformiad yn gyffredinol yn ogystal â'i ddwy gôl.

Ychydig ddyddiau ar ôl y gêm dywedodd merch sy'n gweithio gyda fi yn y BBC sydd ddim yn ymddiddori llawer mewn pêl-droed ei bod hi wedi digwydd fy nghlywed i'n cyfeirio at y ffaith fod Pratley wedi gwella o lawdriniaeth i'w ysgwydd ac o'r dwymyn doben ("mumps"), ac oherwydd ei salwch ei fod o wedi colli pum cilogram (un pwys ar ddeg) mewn pwysau.

"Roedd y stori yna yn stori dda " meddai'r ferch sy'n gweithio gyda fi - ac 'roedd y stori dda honno'n rhan o gêm wirioneddol wych i sylwebu arni.

cardiff

BBC Radio Cymru football commentator Gareth Blainey says that Swansea's 3-2 victory over Cardiff almost a fortnight ago is one of the three most memorable matches he's worked on for BBC. Radio Cymru since he first started commentating regularly in the 1992-93 season - along with Wales's 2-1 win against Italy in October 2002 and Swansea's 4-2 win against Hull in May 2003.

After the recent derby, Darren Pratley rightly drew attention to 'team spirit' being a key factor in Swansea's success but it's fair to point out Pratley's huge contribution to the victory in terms of his overall performance as well as his two goals : a huge achievement for a player who's recovered from shoulder injury and a severe bout of mumpswhich caused him to lose five kilograms (eleven pounds) in weight.

Darren Pratley
 News Archive
Display Stories From Week

Swansea business finder is powered by city-visitor.com & cityvisitor.co.uk

All materials on this website © Swansea City Football Club & FLPTV Ltd.

Photographs courtesy of Empics or Swansea City Football Club ©

CEOP - Report Abuse

Part of the Club Player network

Company Details

All rights reserved save as per website Terms of Use. Privacy Statement. Subscription terms and conditions.

Accessibility.

For all advertising and sponsorship enquiries, please click here