Gan Gareth Blainey
Dyna'n union mae Lee Trundle sydd ar fenthyg o Bristol City wedi'i wneud yn ddiweddar wrth gwrs trwy sgorio tair gôl ar ôl dod i'r maes yn eilydd yn y ddwy gêm ddiwethaf; ac yn y tair gêm ddiwethaf mae David Cotterill wedi dangos y gallai o fod yn aelod pwysig o garfan Abertawe os gwnaiff o ymuno'n barhaol o Sheffield United yn y Flwyddyn Newydd.
Wrth sôn am aelodau pwysig o garfan Paulo Sousa, daeth tri hynod o bwysig - Nathan Dyer, Alan Tate a Leon Britton - i Abertawe ar fenthyg cyn ymuno â'r clwb yn barhaol - Dyer o Southampton y tymor diwethaf a Tate o Manchester United a Britton o West Ham yn nhymor 2002-03.
Mae hi'n rhyfedd meddwl fod saith mlynedd ers i Britton chwarae i Abertawe am y tro cyntaf. Ar brynhawn Sadwrn Rhagfyr 14eg. 2002 'roedd o yn nhîm Brian Flynn gollodd 1-0 yng Nghaerwysg (Exeter) ac 'rydw i'n cofio'r argraff fawr wnaeth y chwaraewr bychan yng nghanol y cae arnaf i y diwrnod hwnnw.
Gwnaeth chwaraewr sy'n debygol o fod yn nhîm Nottingham Forest heddiw argraff fawr ar fenthyg i Abertawe ddau dymor yn ôl.
Sôn ydw i am Paul Anderson ddaeth i'r clwb am y tymor cyfan o Lerpwl. Sgoriodd yr asgellwr chwim ddeg gôl - saith yn y Gynghrair : record ardderchog i chwaraewr yn ei safle o.
'Roedd Anderson yn aelod allweddol o garfan Roberto Martinez enillodd Bencampwriaeth Yr Adran Gyntaf a 'does ond gobeithio na fydd o mor effeithiol yn erbyn Abertawe ag oedd o i Abertawe!
BBC Wales football commentator Gareth Blainey points out the valuable contributions made by players on loan at Swansea City : 'super sub' Lee Trundle and David Cotterill at present; and three other key members of Paulo Sousa's squad - Nathan Dyer, Alan Tate and Leon Britton - all played for Swansea on loan before joining the club permanently.
Britton made his debut for the Swans on loan from West Ham seven years ago - in a 1-0 defeat at Exeter on December 14th 2002.
Paul Anderson, who's likely to feature for Nottingham Forest today, made a big impact on a season-long loan at Liberty Stadium from Liverpool two seasons ago. The speedy winger scored ten goals - seven of them in the League : hopefully Anderson won't be as effective against Swansea as he was for Swansea