Dyna ichi gyfieithiad o rai o'r sylwadau wnaeth Leon Britton mewn cyfweliad gydag Adran Chwaraeon B.B.C. Cymru CYN y gêm ar faes Sheffield United wythnos i ddoe.
'Rwyf i wedi holi'r chwaraewr canol cae yn aml ers iddo ymuno â'r clwb o West Ham yn 2002 ac 'rwy'n eithaf sicr y buasai'n dweud rhywbeth digon tebyg eto am gêm heddiw ond wrth gwrs mae'r sefyllfa wedi newid yn llwyr oherwydd beth ddigwyddodd yn Bramall Lane.
Cyn teithio yno rhybuddiodd Britton na allai Abertawe fforddio llithro : mae'r ffaith mai dyna wnaeth chwaraewyr Paulo Sousa yn golygu y bydd gêm y prynhawn yma yn erbyn Doncaster yn un llawn tensiwn yn Stadiwm Liberty.
Ar brynhawn fel hwn, gallai'r profiad mae Britton wedi'i gael mewn mwy na thri chant o gemau i'r clwb fod yn amhrisiadwy ac 'roedd hi'n ddiddorol ei glywed yn dweud cyn y siom yn Sheffield ei bod hi'n llawer haws gorfod ymdopi â'r pwysau o geisio cyrraedd y gemau ail-gyfle eleni nag oedd hi i orfod delio gyda'r pwysau o sicrhau na fyddai Abertawe yn syrthio o'r Gynghrair saith mlynedd yn ôl.
Beth bynnag wnaiff ddigwydd heddiw mae hi'n ddigon posibl na fydd Britton yn dal gyda'r clwb y tymor nesaf ar ôl i'w gytundeb ddod i ben. Fydd hi ddim syndod os aiff o i Wigan at Roberto Martinez ac os bydd yn mynd bydd y chwaraewr bychan yn gadael bwlch mawr ar ei ôl yng nghanol y cae.
Ond gyda neu heb Britton, fydd Abertawe yn wynebu Wigan yn Yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf ? 'Does ond gobeithio'n fawr y gall tîm Sousa ennill ac y gall Bristol City wneud ffafr enfawr â nhw yn Bloomfield Road. Un elfen o blaid Yr Elyrch yn fy marn i yw'r ffaith y bydd chwaraewyr y tîm o Fryste eisiau gwneud argraff ar eu rheolwr newydd Steve Coppell ac efallai y bydd yr awydd hwnnw yn ddigon i rwystro Blackpool rhag ennill.
BBC Wales football commentator Gareth Blainey points out that Leon Britton said that the Swansea players ' have to be professional and remain calm ' BEFORE the defeat at Bramall Lane dented their hopes of reaching the play-offs and set up a tense afternoon today.
Whatever happens this afternoon Britton could well leave the club to join Roberto Martinez at Wigan - if he goes, he'll leave a big gap in the Swans' midfield.