User tools SmallNormal Text SizeLargePrintBookmark the SiteEmail this Page

Y Byd Ar Bedwar Yn Codi Cwestiynau Difyr

Posted on: Tue 03 Jan 2012

Roedd yna raglen ddifyr yn y gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar ar S4C ychydig wythnosau yn ôl.

Yn y rhaglen, roedd y gohebydd Sian Morgan yn cyflwyno adroddiad o Stadiwm y Liberty, gan edrych ar wahanol agweddau pobl Cymru at bynciau mawr trafod yn y byd pêl-droed.

Gyda 'r pêl-droediwr Cymreig mwya' disglair ein cyfnod, Gareth Bale, yn rhan o garfan Spurs heddiw, mae'n amserol i edrych eto ar ambell gasgliad a gafwyd yn y rhaglen.

jazz

Advertisement

Y peth mwyaf cadarnhaol oedd bod yr arolwg barn yn dangos fod Abertawe bellach ar y blaen mewn poblogrwydd i Gaerdydd a holl dimau Lloegr, gan gynnwys Tottenham Hotspurs.

Yn ôl yr arolwg barn gan YouGov, a gomisiynwyd gan raglen Y Byd ar Bedwar, mae 20% o gefnogwyr pêl-droed Cymru nawr cefnogi tîm pêl-droed Abertawe.

Mae'r arolwg hefyd yn dangos bod 18% o gefnogwyr pêl-droed yn deyrngar i Gaerdydd, tra bod 17% yn cefnogi Manchester United, ac 14% yn cefnogi Lerpwl.

Holwyd mil o bobol ledled Cymru ynglŷn â'r timau pêl-droed yr oedden nhw'n eu cefnogi, gan ddod i'r casgliad fod ychydig dros hanner cefnogwyr pêl-droed Cymru, 54%, yn cefnogi clybiau o Loegr, tra bod 44% yn cefnogi timau o Gymru.

Cafodd yr arolwg ei gynnal rhwng 16 a 18 Tachwedd, ddyddiau'n unig cyn i Abertawe wynebu Manchester United yn yr Uwch-gynghrair Barclays.

Joe Allen

Colli o 1 gôl i 0 bu hanes yr Elyrch yn y gêm honno, ond mae eu dyrchafiad i'r Uwch-gynghrair wedi ennill llu o gefnogwyr i dîm Brendan Rodgers yn ystod eu tymor cyntaf yn yr Uwch-gynghrair.

Mae'r cyfan yn dangos cymaint y mae'r clwb wedi datblygu yn ystod y misoedd diwethaf a chymaint yw'r potensial am fwy o gynnydd a thwf.

Roedd Gareth Bale wedi dweud ar goedd amser y gêm ail gyfle ym mis Mai ei fod yn gobeithio y byddai Abertawe yn curo Reading ac yn cyrraedd yr Uwch-gynghrair.

Y gobaith yw y bydd cefnogwyr Abertawe yn cofio hynny os bydd yn chwarae heddiw ac yn peidio â rhoi amser caled iddo o'r terasus am ei fod yn dod o Gaerdydd.

Yn y gêm ryngwladol ddiwethaf, y gêm gyfeillgar yn erbyn Norwy yn Stadiwm Dinas Caerdydd, roedd rhai yn ei alw'n fradwr am ei fod wedi mynegi awydd i chwarae i dîm Pêl-droed GB.

Roedd Arolwg Y Byd ar Bedwar yn yr un rhaglen yn dangos bod 69 y cant o bobl Cymru yn credu y dylai peldroedwyr Cymru chwarae i Dîm Pêl-droed Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd.

Cafodd mil o bobol eu holi am greu tîm pêl-droed unedig i Brydain Fawr ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain, a dim ond 10% o'r rhai a holwyd oedd yn erbyn gweld chwaraewyr Cymru yn ymuno â'r tîm.

Joe Allen

Ddeufis yn ôl, fe gyhoeddodd Aaron Ramsey, Capten Cymru, a Gareth Bale, Chwaraewr y Flwyddyn Cymru, eu bod ill dau yn awyddus i ymuno â 'Tîm GB' ar gyfer twrnament pêl-droed y Gemau Olympaidd.

Mae'r cyhoeddiad gan y ddau wedi cael ei feirniadu'n hallt gan nifer o gefnogwyr, am ystyried cymryd cam a allai, yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru, gyfaddawdu annibyniaeth y tîm cenedlaethol.

Yn bersonol, dwi ddim yn awyddus iawn iddynt ymuno â Thîm GB - ond dwi ddim yn meddwl y dylai beryglu ein statws fel tîm cenedlaethol gan fod gennym Uwch-gynghrair ein hunain.

Rwy'n credu taw dewis personol yw e' ac nad yw'n teilyngu protestio yn eu herbyn os dyna yw eu penderfyniad.

Ond dwi ddim yn deall chwaith pam y byddan nhw'n dymuno gwneud ac mae doethach fyddai canolbwyntio ar chwarae i'w clybiau ac i Gymru yr haf nesaf.

Fel dywedodd cyn Alarch, yr athletwr Dai Greene, llwyfan i'r campau eraill yw'r Gemau Olympaidd. Mae gan bêl-droed ei chystadleuaeth ei hun, Cwpan y Byd.

Mae Gareth Bale yn chwaraewr o ddawn ryfeddol ac yn lifrau Spurs neu Gymru y dylwn ei weld. Gobeithio na welwn ormod o'i ddisgleirdeb heddiw yn ein herbyn ni ond y bydd ar dân pan fydd ymgyrch Cymru'n dechrau fis Medi nesa'.

Joe Allen
 Related Articles
 News Archive
Display Stories From Week

Swansea business finder is powered by city-visitor.com & cityvisitor.co.uk

All materials on this website © Swansea City Football Club & FLPTV Ltd.

Photographs courtesy of Empics or Swansea City Football Club ©

CEOP - Report Abuse

Part of the Club Player network

Company Details

All rights reserved save as per website Terms of Use. Privacy Statement. Subscription terms and conditions.

Accessibility.

For all advertising and sponsorship enquiries, please click here